P-05-724 – Hawliau i ofal iechyd sylfaenol yn Gymraeg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cymdeithas yr Iaith ar ôl casglu 766 llofnod bapur.
Geiriad y ddeiseb
Galwn ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar y Safonau arfaethedig ym maes iechyd i gynnwys darparwyr gwasanaethau iechyd sylfaenol, megis meddygfeydd a fferyllfeydd, er mwyn sicrhau bod gan bobl hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn.